Kestrel's Nest

The Second Branch of the Mabinogi
Branwen daughter of Llyr

Llyfr Gwyn Rhydderch - White Book of Rhydderch (Peniarth 4) f.10r-f.16r, cols.38-61

The tragic tale of Branwen and her giant brother Bendigeidfran, crowned king of the Island of the Mighty....

Note: The text follows as closely as possible to the original manuscript. The text is continuous in the original. The split into paragraphs follows the system used by Derick S. Thomson in his Branwen Uerch Lyr (Dublin, 2002) except that the englyn is left within the text.

Bibliography

 

BEndigeiduran uab Llyr aoed urenhin coronawc ar yr ynys hon. Ac ardyrchawc ogoron lundein. a frynhawngueith yd oed yn hardlech yn ardudwy, yn llys idaw. Ac yn eisted yd oedynt ar garrec hardlech, uch penn y weilgi. amanawydan uab llyr y urawt y gyt ac ef. a deu uroder un uam ac ef, nissyen ac efnyssen, aguyrda y am hynny mal y gwedei ynghylch brenhin. Y deu uroder un uam ac ef meibon oedynt y eurosswyd oe uam ynteu penardim uerch ueli uab mynogan ar neill or gueisson hynny gwas da oed. ef abarei tangneued y rwg y deu lu ban uydynt lidyawcaf. sef oed hwnnw nissyen. Y llal a barei ymlad y rwng y deu uroder ban uei uwyaf yd ymgerynt.

Ac ual yd oedynt yn eisted yuelly wynt awelynt teir llong ar dec yn dyuot o deheu iwerdon Ac yn kyrchu parth ac attunt a cherdet rugyl ebrwyd ganthunt. y gwynt yn eu hol ac yn nessau yn ebrwyd attunt. Mi awelaf longeu racco heb y brenhin ac yn dyuot yn hy parth ar tir. Ac erchwch y wyr y llys wiscaw amdanunt a mynet y edrych pa uedwl yw yr eidunt. y gwyr awiscawd amdanunt ac anessayssant attunt ywayret. gwedy guelet yllongeu o agos diheu oed ganthunt na welsynt eiryoet llongeu gyweirach eu hansawd noc wy. Arwydon tec guedus arwreid o bali oed arnunt.

Ac ar hynny nachaf un or llongeu yn rac ulaenu rac y rei ereill. Ac y guelynt dyrchauael taryan yn uch no bwrd y llong. A swch y taryan yuynyd yn arwyd tangneued. Ac y nessawys y gwyr attunt, ual yd ymglywynt ymdidan. bwrw badeu allan awnaethont wynteu, a nessau parth ar tir, a chyuarch guell yr brenhin. E brenhin aeclywei wynteu or lle yd oed ar garrec uchel uch eu penn. duw arodo da ywch heb ef a grayssaw wrthywch. Pieu yniuer y llongeu hynn. A phwy yssyd pennaf arnunt wy. Arglwyd heb wynt mae ymma matholwch brenhin iwerdon ac ef bieu y llongeu. beth heb y brenhin a uynnhei ef. A uyn ef dyuot yr tir. na uynn, arglwyd heb wynt negessawl yw wrthyt ti onyt yneges a geif. Byryw neges yw yr eidaw ef heb y brenhin. Mynnu ymgyuathrachu athidy arglwyd heb wynt. Y erchi branwen uerch lyr ydoeth. Ac os da genhyt ti ef a uyn ymrwymaw ynys y kedeirn ac iwerdon y gyt ual ybydynt gadarnach. Ie heb ynteu doet yr tir achynghor agymerwn ninheu am hynny. yr atteb hwnnw a aeth ataw ef. Minheu a af yn llawen heb ef. ef adoeth yr tir allawen uuwyt wrthaw a dygyuor mawr uu yny llys ynos honno y rwng eyniuer ef ac yniuer y llys.

yny lle trannoeth kymryt kynghor. Sef agahat yn y kynghor, rodi branwen y matholwch ahonno oed tryded prif rieni yn yr ynys hon. teccaf morwyn yn ybyt oed. A gwneuthur oed yn aberfraw y gyscu genti. Ac odyno y kychwyn. Ac y kychwynassant yr yniueroed hynny parth ac aberfraw, Matholwch ay yniueroed yny llongheu. Bendigeituran ayniuer ynteu ar tir yny doethant hyt yn aberfraw.

Yn aberfraw dechreu ywled, ac eisted. Sef ual yd eistedyssant. brenhin ynys y kedeirn a manawydan uab llyr or neill parth idaw. A matholwch or parth arall. abranwen uerch lyr gyt ac ynteu.

Nyt ymywn ty ydoydynt namyn ymywn palleu. ny angassei uendigeituran eiryoet ymywn ty.

Ar gyuedach a dechreussant. dilit y gyuedach awnaethant ac ymdidan. A phan welsant uot yn well udunt kymryt hun no dilyt kyuedach y gyscu yd aethant. Ar nos honno y kyscwys matholwch gan uranwen. A thrannoeth kyuodi a orugant pawb oniuer yllys. ar swydwyr adechreusant ymaruar am rannyat y meirych ar gweisson. Ac eu rannu a wnaethant ym pob kyueir hyt y mor. Ac ar hynny dydgueith, nachaf efnyssen gwr anagneuedus adywedassam uchot yn dywanu y lety meirch matholwch a gouyn awnaeth pioed y meirch. Meirych matholwch brenhin iwerdon yw y rei hyn heb wy. beth awnant wy yna heb ef. Yma y mae brenhin iwerdon. Ac yrgyscwys gan uranwen dy chwaer ay ueirych yw y rei hynn. Ay yuelly y gwnaethant wy am uorwyn kystal a honno ac yn chwaer y minheu y rodi heb uyghanyat i. ny ellynt wy tremic uwy arnaf i heb ef. Ac yn hynny guan ydan y meirych athorri y guefleu wrth ydanned udunt ar clusteu wrth y penneu. Ar rawn wrth y keuyn. Ac ny caei graf ar yr amranneu eu llad wrth yr ascwrn. Agwneuthur anfuryf ar y meirych y uelly. hyd nat oed rym a ellit ar meirych.

E chwedyl a doeth at uatholwch. Sef ual ydoeth. dywedut anfuruaw y ueirych ac eu llygru hyt nat oed un mwynyant a ellit o honunt. Ie arglwyd heb un dy waradwydaw yr awnaethpwyt. A hynny a uynhir y wneuthur athi. Dioer eres genhyf os uy gwaradwydaw a uynhynt rodi morwyn gystal kyuurd gyn anwylet gan y chenedyl ac a rodyssant ym. Arglwyd heb un arall ti awely dangos ef. Ac nyt oes it awnelych namyn kyrchu dy longeu. Ac ar hynny arouun y longeu awnaeth ef.

E chwedyl a doeth at uendigeituran bot matholwch yn adaw y llys heb ouyn heb ganhyat. A chenadeu aaeth youyn idaw paham oed hynny. Sef kennadeu a aeth. Idic uab anarawc. ac eueyd hir y guyr hynny ay godiwawd ac a ouynyssant idaw pa darpar oed yr eidaw. A pha achaws yd oed yn mynnet eymdeith. dioer heb ynteu pei ysgwypwn, ny down yma. Cwbyl waradwyd a geueis. Ac ny duc neb kyrch waeth nor dugum ymma. Areuedawt rygyueryw ami. Beth yw hynny heb wynt. Rodi bronwen uerch lyr ym yn tryded prif rieni yr ynys honn. Ac yn uerch y urenhin ynys y kedeyrn a chyscu genthi a gwedy hynny uygwaradwydaw. A ryued oed genhyf nat kyn rodi morwyn gystal a honno ym y gwneit y gwaradwyd awnelit ym. Dioer arglwyd nyt ouod y neb a uedei y llys heb wynt na neb oe kynghor y gwnaetpwyt y gwaradwyd hwnnw yt. A chyt bo gwaradwyd gennyt ti hynny. mwy yw gan uendigeituran no chenyt ti y tremic hwnnw ar guare. Ie heb ef mi a tebygaf. Ac eissoes ni eill ef uy ni waradwydaw i o hynny.

E gwyr hynny a ymchwelwys ar atteb hwnnw parth ar lle yd oed uendigeituran. a menegi idaw yr atteb adiwedyssei matholwch. Ie heb ynteu nyt oes ymwaret e uynet ef yn anygneuedus ac nys gadwn. Ie arglwyd heb wy anuon etwa genhadeu yny ol. Anuonaf heb ef. Kyuodwch manawydan uab Llyr. ac eueyd hir. Ac unic glew yscwyd ac ewch yny ol heb ef a menegwch idaw. ef a geif march iach am pob un or alygrwyt. Ac y gyt ahynny ef ageif yn wynepwerth idaw Llathen aryant a uo kyuref a chyhyt ac ef e hun. A chlawr eur kyflet a y wyneb. a menegwch ydaw pa ryw wr awnaeth hynny. a phanyw om anuod inheu ygwnaethpwyt hynny. Ac y may brawt un uam ami awnaeth hynny. Ac nat hawd genhyf i nae lad nae diuetha adoet y ymwelet a mi heb ef. A mi awnaf y dangneued ar y llun y mynho e hun.

E kennadeu a aethant ar ol matholwch ac a uanagyssant idaw yr ymadrawd hwnnw yn garedic. Ac ef ae guerendewis. Awyr heb ef ni a gymerwn gynghor. Ef a aeth yn y gynghor sef kynghor a uedylyssant. Os gwrthot hynny a wnelynt. bot yn tebygach ganthunt cael kywilid a uei uwy no chael iawn a uei uwy. a disgynnu a wnaeth ar gymryt hynny. Ac y'r llys y deuthant yn dangneuedus. Achyweiraw y pebylleu ar palleu awnaethant udunt ar ureint kyweirdeb yneuad. a mynet y uwyta. Ac ual ydechreuyssant eisted ar dechreu y wled, yd eistedyssant yna.

A dechreu ymdidan a wnaeth matholwch a bendigeituran. Ac na chaf yn ardiawc gan uendigeituran yn ymdidan ac yn drist a gaei gan uatholwch, ay lywenyt yn wastat kyn no hynny. A medylyaw a wnaeth bot yn athrist gan yr unben uychanet a gawssei o iawn am y gam. A wr heb y bendigeiduran nit wyt gystal ymdidanwr heno ac un nos Ac os yr bychanet genhyt ti dy iawn. ti a gehy ychwanegu yt wrth dy uynnu. Ac auory talu dy ueirch yt. Arglwyd heb ef duw a dalo yt. Mi adelediwaf dy iawn heuyt yt heb y bendigeituran. Mi a rodaf yt peir. A chynnedyf y peir yw. y gwr a lader hediw yt. y uwrw yn y peir ac erbyn auory y uot yn gystal ac y bu oreu eithyr na byd llyueryd ganthaw. A diolwch awnaeth ynteu hyny a diruawr lywenyd a gymerth ynteu or achaws hwnnw. A thrannoeth y talwyt y ueirych idaw tra barhawd meirych dof. Ac odyna y kyrchwyt ac ef kymwt arall, ac y talwyt ebolyon ydaw yny uu gwbyl idaw y dal ac wrth hynny y dodet ar y kymwt hwnnw, o hynny allan, tal ebolyon.

Ar eil nos eisted y gyt awnaethant. Arglwyd heb y matholwch pan doeth yti y peir a rodeist ymi. E doeth im heb ef y gan wr a uu yth wlat ti. Ac ni wn na bo yno y caffo. Pwy oed hwnnw heb ef. llassar llaes gyfnewit heb ef. a hwnnw a doeth yma o iwerdon a chymidei kymeinuoll y wreic y gyt ac ef ac a dianghyssant or ty hayarn yn iwerdon pan wnaethpwyt yn wenn yn eu kylch. ac y dianghyssant odyno. Ac eres gynhyf i ony wdosti dim y wrth hynny.'

Gwn arglwyd heb ef. A chymeint ac a wnn mi ae managaf yti. Yn hela yd oedwn yn iwerdon dydgueith ar benn gossed uch penn llyn oed yn iwerdon. A llyn y peir y gelwit. A mi a welwn gwr melyngoch mawr yn dyuot or llyn a pheir ar y geuyn. A gwr heuyt athrugar mawr adrygweith anorles arnaw oed. a gwreic yn y ôl. ac ot oed uawr ef mwy dwyweith oed y wreic noc ef. A chyrchu ataf awnaethant a chyuarch uell im. Ie heb y mi pa gerdet yssyd arnawch chwi. llyna gerdet yssyd arnam ni arglwyd heb ef. y wreic honn heb ef ym penn pethewnos a mis y byd beichogi idi. ar mab a aner yna or torllwyth hwnnw ar benn y pethewnos ar mi y byd gwr ymlad llawn aruawc.

y kymereis inheu wyntwy arnaf yu gossymdeithaw. y buant ulwydyn gyt a mi. yny ulwydyn y keueis yn diwarauun wynt. o hynny allann y guarauunwyt im. A chyn penn y pedwyryd wynt eu hun yn peri eu hatcassu ac anghynwys yny wlat yn gwneuthur sarahedeu. Ac yn eighaw ac yn gouudyaw guyrda a gwragedda. O hynny allan ydygyuores uygkyuoeth am ympen y erchi im ymuadeu ac wynt. A rodi dewis im ae uygkyuoeth ae wynt.

E dodeis inheu ar gynghor uygwlat beth awneit amdanunt. nyd eynt wy oy bod nit oed reit udunt wynteu oc eu hanuod herwyd ymlad uynet. Ac yna yny kyuyng gynghor y causant gwneuthur ystauell haearn oll a gwedy bot y barawt yr ystauell. dyuyn aoed o of yn iwerdon yno or aoed o perchen geuel amwrthwl a pheri gossot kyuuch achrib yr ystauell o lo a pheri guassanaethu yn diwall o uwyt a llyn arnunt. ar ywreic ay gwr ay phlant. A phan wybuwyt eu medwi wynteu y dechreuwyt kymyscu y tan a'r glo. am ben yr ystauell a chwythu y megineu a oed wedy eu gossot ygkylch y ty a gwr a pob dwy uegin a dechreu chwythu y megineu yny uyd yty yn burwen am eu penn. Ac yna y bu y kynghor ganthunt hwy ymherued llawr yr ystauell ac yd arhoes ef yny uyd y pleit haearn yn wenn. ac rac diruawr wres y kyrchwys y bleit ae yscwyd ay tharaw gantaw allan. Ac yny ol ynteu y wreic. A neb ni dieghis odyna namyn ef ae wreic. Ac yna om tebygu i Arglwyd heb y matholwch wrth uendigeiduran y doeth ef drwod attat ti. Yna dioer heb ynteu ydoeth yma ac y roes y peir y minheu. Pa delw arglwyd yd erbynneisti wynteu. Eu rannu ym pob lle yn y kyuoeth. ac y maent yn lluossauc ac yn dyrchauael ym pob lle. ac yn cadarnhau y uann y bythont o wyr ac arueu goreu a welas neb.

Dilit ymdidan awnaethant y nos honno tra uu da ganthunt a cherd achyuedach. A phan welsant uot yn llessach udunt uynet y gyscu noc eisted awei hwy y gyscu yd aethant. ac y uelly y treulyssant y wled honno drwy digriuwch. Ac yn niwed hynny, y kychwynnwys matholwch a branuen y gyt ac ef parth ac iwerdon. A hynny oaber menei y kychwynnyssant teir llong ar dec ac y doethant hyt yn iwerdon.

Yn iwerdon dirwawr lywenyd a uu wrthunt. Ny doey wr mawr na gwreic da yn iwerdon eymwlet a branwen ni rodei hi ae cae ae modrwy ae teyrndlws cadwedic ydaw a uei arbennic y welet yn mynet eymdeith. Ac ymysc hynny y ulwydyn honno a duc hi yn glotuawr a hwyl delediw aduc hi o glot a chedymdeithon. Ac yn hynny beichogi a damweinwys idi ygael. A guedy treulaw yr amseroyd dylyedus mab a anet idi. Sef enw a dodet ar y mab. guern uab matholwch. Rodi y mab ar uaeth awnaethpwyt ar un lle goreu y wyr yn iwerdon.

A hynny yn yr eil ulwydyn llyma ymodwrd yn iwerdon am y guaradwyd a gawssei matholwch ygkymry ar somm a wnathoedit idaw am yueirch. A hynny yurodyr maeth ar gwyr nessaf gantaw yn lliwaw idaw hynny a heb ygelu. A nachaf y dygyuor yn iwerdon hyt nat oed lonyd idaw ony chaei dial y sarahet. Sef dial awnaethant gyrru branwen oun ystauell ac ef ay chymell ybobi yny llys. a pheri yr kygyd gwedy bei yn dryllyaw kic dyuot idi atharaw bonclust arnei beunyd. Ac yuelly y gwnaethpwyt y foen. Ie arglwyd heb ywyr wrth uatholwch par weithon wahard y llongeu ar yscraffeu ar corygeu ual nat el neb ygymry ac adel yma ogymry carchara wynt ua na at trachefyn rac gwybot hynn. Ac ar hynny y diskynyssant blwynyded nit llei no their y buant y uelly. Ac yn hynny meithryn ederyn drydwen awnaeth hitheu ar dal y noe gyt a hi a dyscu ieith idi a menegi yr ederyn y ryw wr oed y brawt. Adwyn llythyr y poeneu ar amharch a oed arnei hitheu. Ar llythyr a rwymwyt am uon eskyll yr ederyn, ay anuon parth achymry. Ar ederyn a doeth yr ynys honn. Sef lle y cauas uendigeiduran ygkaer seint yn aruon yn dadleu idaw dydgweith a diskynnu ar eyscwyd a garwhau y phluf yny arganuuwyt y llythyr ac adnabot meithryn yr ederyn ygkyuanned. Ac yna kymryt y llythyr ay edrych. A phan darllewyt y llythyr doluryaw a wnaeth oglybot y poen oed ar uranwen a dechreu or lle hwnnw peri anuon kennadeu ydygyuoryaw yr ynys honn y gyt. Ac yna y peris ef dyuot llwyr wys pedeir degwlat aseithugeint hyt attaw. ac e hun cwynaw wrth hynny bot y poen aoed ar y chwaer. Ac yna kymryt kynghor. Sef kynghor a gahat kyrchu iwerdon ac adaw seithwyr ydywyssogyon yma. Achradawc uab bran y benhaf. Ac eu seith marchawc yn edeirnon yd edewit y gwyr hynny. Ac oachaws hynny y dodet seith marchawc ar y dref. Sef seithwyr oedynt. Cradawc uab bran. Ac euehyd hir. Ac unic glew yscwyd. Ac idic uab anarawc wallt grwn. A fodor uab eruyll. Ac wlch minasgwrn. A llashar uab llayssar llaesgygwyt. A phendaran dyuet yn was ieuanc gyt ac wy. Y seith hynny a drigwys yn seith kynueissat ysynyaw ar yr ynys honn. Achradawc uab bran yn benhaf kynweisyat arnunt.

Bendigeiduran ar yniuer adywedyssam ni ahwylyssant parth ac iwerdon ac nyt oed uawr y weilgi yna y ueis yd aeth ef. nyt oed namyn dwy auon. Lli. ac archan ygelwit. Aguedy hynny yd amlawys y weilgi pan oreskynwys y weilgi y tyrnassoed. Ac yna ykerdwys ef ac aoed o gerd arwest ar y geuyn ehun a chyrchu tir iwerdon.

A meicheit matholwch aoedynt ar lan y weilgi dydgueith yn troi ygkylch eu moch. Ac o achaws dremynt awelsant ar y weilgi wy a doethant at matholwch. Arglwyd heb vy henpych guell. Duw arodo da ywch heb ef. a chwedleu genhwch. Arglwyd heb wy mae genhym ni chwedleu ryued. coet rywelsom ar y weilgi yny lle ny welsam eiryoet un prenn. llyna beth eres heb ef. A welewch wchi dim namyn hynny. Gwelem arglwyd heb wy mynyd mawr gyr llaw y coet a hwnnw ar gerdet. ac eskeir aruchel ar ymynyd. a llynn o pop parth yr eskeir ar coet ar mynyd a phob peth oll o hynny ar gerdet. Ie heb ynteu nyt oes neb yma a wypo dim y wrth hynny onys gwyr branwen gouynnwch idi. Kennadeu a aeth at uranwen. Arglwydes heb wy beth dybygy di yw hynny. Kynny bwyf arglwydes heb hi mi a wnn beth yw hynny. Gwyr ynys y kedyrn yn dyuot drwod oglybot uym poen am amharch. Beth yw y coet a welat ar y mor heb wy. gwernenni llongeu a hwylbrenni heb hi. Och heb wy, beth oed ymynyd a welit gan ystlys y llongeu. Bendigeiduran uym brawt heb hi oed hwnnw yn dyuot y ueis nyt oed long y kynghanei ef yndi. beth oed yr eskeir aruchel ar llynn o bop parth yr eskeir. Ef heb hi yn edrych ar yr ynys honn llidyawc yw. Y deu lygat ef opop parth y drwyn yw y dwy lynn o bop parth yr eskeir.

Ac yna dygyuor holl wyr ymlad iwerdon awnaethpwyt ygyt. ar holl uorbennyd yn gyflym. A chynghor a gymerwyt. Arglwyd heb y wyrda wrth uatholwch nyt oes gynghor namyn kilyaw drwy Linon auon oed yn iwerdon. agadu llinon y rot ac ef. Athorri y bont yssyd ar yr auon. A mein sugyn yssyd ygwaelawt yr auon ny eill na llong na llestyr arnei. Wynt a gylyssant drwy yr auon, ac a torryssant y bont.

Bendigeiduran a doeth yr tir a llynges y gyt ac ef parth a glann yr auon. Arglwyd heb y wyrda ti a wdost kynnedyf yr auon, ny eill neb uynet drwydi. nyt oes bont arnei hitheu. Mae dy gyngor am bont heb wy. Nit oes heb ynteu namyn a uo penn bit pont. Mi a uydaf pont heb ef. Ac yna gyntaf y dywetpwyt y geir hwnnw ac y diharebir etwa ohonaw.

Ac yna guedy gorwed ohonaw ef ar traws yr auon y byrwyt clwydeu arnaw ef. ac yd aeth y luoed ef ar y draws ef drwod. Ar hynny gyt ac y kyuodes ef. llyma gennadeu matholwch yn dyuot attaw ef ac yn kyuarch guell idaw. Ac yny annerch y gan uatholwch y gyuathrachwr, ac yn menegi oe uod ef na haedei arnaw ef namyn da. Ac y mae matholwch yn rodi brenhinaeth iwerdon y wern uab matholwch dy nei ditheu uab dy chwaer ac yny ystynnu yth wyd di yn lle y cam ar codyant awnaethpwyt y uranwen. Ac yny lle ymynnych ditheu ay yma ay yn ynys y kedyrn gossymdeitha uatholwch. Ie heb ynteu uendigeiduran ony allaf i ue hun cael y urenhinaeth. Ac aduyd yskymeraf gynghor am ych kennadwri chwi. O hyn hyt ban del amgen ny cheffwch y genhyf i attep. Ie heb wynteu yr atteb goreu a gaffom ninheu atat ti y down ac ef ac aro ditheu yn kennadwri ninheu. Arhoaf heb ef o dowch yn ehegyr.

Y kennadeu a gyrchyssant racdu ac at uatholwch y doethant. Arglwyd heb wy kyweira attep a uo gwell at undigeidwran. ny warandawei dim or attep a aeth y genhym ni attaw ef. Awyr heb ymatholwch mae ych kynghor chwi. Arglwyd heb wy nyt oes it gynghor namyn un. ni enghis ef ymywn ty eiryoet heb wy. gwna ty heb wy oy anryded ef yganho ef a gwyr ynys y kedyrn yn y neill parth yr ty. athitheu ath lu yn y parth arall. A doro dy urenhinaeth yny ewyllus a gwra idaw. Ac o enryded gwneuthur y ty heb wy peth ny chauas eiryoet ty y ganhei yndaw. ef a tangnoueda athi. Ar kennadeu a doethant ar gennadwri honno gantunt at uendigeiduran. Ac ynteu a gymerth gynghor. Sef a gauas yny gynghor kymryt hynny. Athrwy gynghor branuen uu hynny oll. ac rac llygru ywlat oed genti hitheu hynny.

E tangneued a gyweirwyt ar ty a adeilwyt yn uawr ac yn braf. Ac ystryw awnaeth ygwydyl. sef ystryw awnaethant. dodi guanas o bop parth y bop colouyn o cant colouyn oed yny ty. Adodi boly croyn ar bop guanas a gwr aruawc ym pob vn o honunt. Sef awnaeth efnyssyen dyuot ymlaen llu ynys y kedyrn ymywn ac edrych golygon orwyllt antrugarawc ar hyt y ty. Ac arganuot y bolyeu crwyn awnaeth ar hyt y pyst. beth yssyd yny boly hwnn heb ef wrth un o'r guydyl. blawt eneit heb ef. Sef a wnaeth ynteu y deimlaw hyt ban gauas y benn. A guascu y benn yny glyw y uyssed yn ymanodi yny ureichell drwy yr ascwrn. Ac adaw hwnnw adodi y law ar un arall a gouyn beth yssyd yma. blawt medei y Gwydel. Sef a wnai ynteu yr un guare a fawb ohonunt. hyt nat edewis ef wr byw or hollwyr or deu cannwr eithyr un. A dyuot at hwnnw a gouyn beth yssyd yma. blawt eneit heb y gwydel. Sef awnaeth ynteu ydeimlaw ef yny gauas y benn ac ual y guascassei benneu yrei ereill guascu penn hwnnw. sef y clywei arueu am benn hwnnw. nyt ymedewis ef a hwnnw yny ladawd. Ac yna canu englyn. Yssit yny boly hwnn amryw ulawt keimeit kynniuyeit diskynneit yn trin rac kydwyr cad barawt. Ac ar hynny y dothyw y niueroed yr ty. Ac ydoeth gwyr ynys iwerdon yr ty or neill parth. A gwyr ynys y kedyrn or parth arall. Ac yn gyn ebrwydet ac yd eistedyssant y bu duundeb y rydunt. Ac yd ystynnwyt y urenhinaeth yr mab.

Ac yna guedy daruot y tangneued galw o uendigeiduran y mab attaw. y gan uendigeiduran y kyrchawd y mab at uanawydan. A phawb or ae guelei yny garu. E gan uanawydan y gelwis nyssyen uab eurosswyd y mab attaw. Y mab a aeth attaw yn diryon. paham heb yr efnissyen na daw uy nei uab uy chwaer attaf i kyn ny bei urenhin ar iwerdon da oed genhyf i ymtiryoni ar mab. Aet yn llawen heb y bendigeiduran. y mab a aeth attaw yn llawen. Y Duw y dygaf uygkyffes heb ynteu yny uedwl ys anhebic a gyflauan gan y tylwyth y wneuthur a wnaf i yr awr honn. Achyuodi y uynyd a chymryt y mab erwyd y traet a heb ohir na chael o dyn yny ty gauael arnaw yny want y mab yn wysc y benn yny gynneu. A fan welas uranwen y mab yn boeth yny tan. hi agynsynwys uwrw neit yny tan or lle yd oed yn eisted rwng y deu uroder. A chael o uendigeiduran hi yny neill law. ay tarean yny llaw arall. Ac yna ymgyuot o bawb ar hyt y ty. A llyna y godwrw mwyhaf a uu gan yniuer un ty. pawb yn kymryt y arueu. Ac yna y dywot mordwyd tyllyon. guern gwngwch uiwch uordwyt tyllyon. Ac yn yd aeth pawb ympen yr arueu. y kynhelis bendigeiduran uranwen y rwng y taryan ay yscwyd.

Ac yna y dechrewis y gwydyl kynneu tan dan y peir dadeni. Ac yna ybyrywyt y kalaned yn y peir yny uei yn llawn. Ac y kyuodyn tranoeth y bore yn wyr ymlad kystal a chynt eithyr na ellynt dywedut. Ac yna pan welas efnissyen y calaned heb enni yn un lle o wyr ynys y kedyrn y dywot yny uedwl. Oy a duw heb ef guae ui uy mot yn achaws yr wydwic honn owyr ynys y kedyrn. A meuyl ymi heb ef ony cheissaf i waret rac hynn. Ac ymedyryaw ymlith calaned y gwydyl. Adyuot deu wydel uonllwm idaw ay uwrw yny peir yn rith gwydel. Emystynnu idaw ynteu yny peir yny dyrr y peir yn pedwardryll. Ac yny dyrr ygalon ynteu.

Ac o hynny y bu y meint goruot a uu y wyr ynys ykedyrn. Ny bu oruot ohynny eithyr diang seithwyr a brathu bendigeiduran yny troet a guenwynwaew. Sef seithwyr a dienghis. Pryderi. Manawydan. Gliuieu. eil taran. Talyessin. Ac ynawc grudyeu uab muryel. Heilyn uab gwyn hen.

Ac yna y peris bendigeiduran llad y benn. A chymerwch chwi y penn heb ef adygwch hyt ygwynuryn yn llundein a chledwch ay wyneb ar freinc ef. A chwi a uydwch ar y ford yn hir yn hardlech y bydwch seith mlyned ar ginyaw ac adar riannon y canu ywch. Ar penn a uyd kystal gennwch y gedymdeithas ac y bu oreu gennwch ban uu arnaf i eiryoet. Ac y guales ym penuro y bydwch pedwarugeint mlyned. Ac yny agoroch y drws parth ac aber henueleu y tu ar gernyw y gellwch uot yno ar penn yn dilwgyr genhwch. Ac or pan agoroch y drws hwnnw ny ellwch uot yno kyrchwch lundein y gladu y penn achyrchwch chwi racoch drwod. Ac yna y llas y benn ef. Ac y kychwynassant ar penn gantu drwod yseithwyr hynn. a branwen yn wythuet. Ac yaber alau yn talebolyon ydoethant yr tir. Ac yna eisted awnaethant agorfowys. Edrych oheni hitheu ar iwerdon ac ar ynys y kedyrn awelei ohonunt. Oy a uab duw heb hi guae ni om ganedigaeth. da a dwy ynys adiffeithwyt om achaws i a dodi ucheneit uawr a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi ae chladu yno yglan alaw.

Ac ar hynny kerdet awnaeth y seithwyr parth a hardlech ar penn ganthunt. val y bydant y kerdet llyma gyweithyd yn kyuaruot ac wynt o wyr agwraged. A oes gennwch chwi chwedleu heb y manawydan. nac oes heb wynt onyt goresgyn ogaswallawn uab beli ynys ykedyrn. Ay uot yn urenhin coronawc yn llundein. Pa daruu heb wynteu y gradawc uab bran. ar seithwyr aedewit y gyt ac ef yn yr ynys honn. Dyuot caswallawn am eu penn a llad y chwegwyr a thorri ohonaw ynteu gradawc y galon o aniuyget am welet y cledyf yn llad ywyr ac na wydat pwy ae lladei. Caswallawn adaroed idaw wiscaw llen hut amdanaw. ac ny welei neb ef yn llad y gwyr namyn y cledyf. Ny uynhei gaswallawn y lad ynteu y nei uab y geuynderw oed. A hwnnw uu ytrydyd dyn a torres y gallon o aniuyget. Pendarar dyuet aoed yn was ieuang gyt ar seithwyr adienghis yr coet heb wynt.

Ac yna y kyrchyssant wynteu hardlech ac y dechreussant eisted ac y dechreuwyt ymdiwallu ouwyt a llynn. Ac ydechreuyssant wynteu uwyta ac yuet. Dyuot tri ederyn adechreu canu udunt ryw gerd ac oc aglywssynt o gerd diuwyn oed pob un iwrthi hi. A fell dremynt oed udunt y guelet uch benn y weilgi allan. Ac ar hynny o gin A chyn amlyket oed udunt wy a chyn bydynt gyt ac wy. Ac ar hynny oginyaw y buant seith mlyned.

Ac ym penn y seithuet ulwydyn y kychwynyssant parth a gualas ympenuro. Ac yno yd oed udunt lle teg brenhineid uch benn y weilgi ac yneuad uawr oed ac yr neuad y kyrchyssant. A deu drws a welynt yn agoret. y trydyd drws oed y gayat yr hwnn y tu a chernyw. Weldy racco heb y manawydan y drws ny dylywn ni yagori. Ar nos honno y buant yno yn diwall ac yn digrif ganthunt. Ac yr awelsynt o ouut yn y gwyd ac yr a gewssynt e hun ny doy gof udunt wy dim nac o hynny nac o alar yny byt. Ac yno y treulyssant y pedwarugeint mlyned hyt na wybuant wy eiryoet dwyn yspeit digriuach na hyurydach no honno. Nyt oed anesmwythach nac adnabot o un ar y gilyd y uot yn hyny o amser no fan doethan yno. Nit oed anesmwythach ganthunt wynte gyduot y penn yna no phan uuassei uendigeiduran yn uyw gyd ac wynt. Ac o achaws y pedwarugeint mlyned hynny y gelwit. yspydawt urdaul benn. yspydawt uranwen a Matholwch oed yr honn yd aethpwyt eiwerdon.

Sef awnaeth heilyn uab guyn dydgueith. meuyl ar uy maryf i heb ef onyt agoraf y drws ewybot ay gwir a dywedir am hynny. Agori y drws awnaeth ac edrych ar gernyw ac ar aber henueleu. A phan edrychwys yd oed yn gyn hyspysset ganthunt y gyniuer collet a gollyssynt eiryoet ar gyniuer car achedymdeith a gollyssynt ar gyniuer drwc a dothoed udunt achyt bei yno y kyuarffei ac wynt. ac yn benhaf oll am eu harglwyd. Ac or gyuawr honno ny allyssant wy orfowys namyn kychu ar penn parth a llundein. Pa hyt bynnac y bydynt ar y ford wynt adoethant hyt yn llundein. Ac a gladyssant y penn yn y gwynuryn.

A hwnnw trydyd matcud ban gudywyt. Ar trydyd anuat datcud pann datcudywyt. cany doey ormes byth drwy uor yr ynys honn tra uei y penn yn y cud hwnnw. A hynny adyweit y kyuarwydyd hwnn eu kyfranc wy. ygwyr a gychwynwys o iwerdon yw hwnnw.

En iwerdon nyt edewit dyn byw namyn pump gwraged beichawc ymywn gogof yn diffeithwch iwerdon. Ar pump wraged hynny yn yr un kyfnot a anet udunt pum meib. Ar pym meib hynny a uagyssant hyt ban uuant weisson mawr. ac yny uedylyssant am wraged. Ac yny uu damunet gantunt eu cafael. Ac yna kyscu pob un lau heb lau gan uam y gilid a gwledychu y wlat ay chyuanhedu ay rannu y rydunt yll pymp. ac o achaws y ranyat hwnnw y gelwir etwan pymp rann ywerdon. Ac edrych y wlat a wnaethant ford y buassei yr aeruaeu. achael eur ac aryant yny ytoedynt yn gyuoethawc.

A llyna ual y teruyna y geing honn or mabinyogi. o achaws paluawt branwen yr honn a uu tryded anuat paluawt yn yr ynys honn. Ac oachaws yspadawt uran pan aeth yniuer pedeir decwlat a seithugeint eiwerdon y dial paluawt branwen. Ac am y ginyaw yn hardlech seith mlyned. ac am ganyat adar riannon. ac ar yspydaut benn pedwarugeint mlyned.

 

Bibliography:
Text:
Evans, J Gwenogvryn, White Book Mabinogion: Tales and Romances (Pwllheli, 1907) reprinted as Evans, J Gwenogvryn and Jones, R M, Llyfr Gwyn Rhydderch: Y Chwedlau a'r Rhamantau (Caerdydd, 1973), pp.19-31.
Williams, Ifor, Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930), pp.29-48.
Thomson, Derick S, Branwen Uerch Lyr (Dublin, 2003).
Translation:
Jones, Gwyn, and Jones, Thomas, The Mabinogion (London, Everyman, 1993), pp.21-34.